Marmori

Marmori
I farmori mae angen nofio paent ar fath o wymon carragheen trwchus. Rhaid codi’r ddelw o wyneb y bath gyda darn o bapur. Mae fy ngwaith wedi ei dylanwadau gan y tri thraddodiad o farmori yn y byd. Defnyddiwyd marmori Ewropeaidd gan mwyaf i rwymo llyfrau main. Mae marmori Twrcaidd neu Ebru yn cynhyrchu darluniau ffiguraidd o flodau. Dechreuodd marmori Siapanaidd, Sumingashi, yn yr ail ar ddegfed ganrif, cynhyrchwyd patrymau meddal bron etheraidd i ddogfennau ymerodrol. Credwyd daeth y mathau arall o farmori o Sumingashi yn wreiddiol.
Yn ddiweddar mae rhan fwyaf o’n gwaith yn seiliedig ar uniadu o farmori Ewropeaidd traddodiadol a Sumingashi. Mae’r paent yn cael ei gosod ar y bath yn gylchoedd consentrig, cynhyrchwyd delw sy’n atgoffaol o fapiau, ynysoedd, amlinellau a chrychion ar dwr. Mae’r papur yn cael ei defnyddio i greu amrywiad unigryw o emwaith papur, cardiau cyfarch a gwaith wal fentrus a graffig.

Mae gweithdai marmori ar gael i grwpiau lan i 8 bobl. Ffoniwch i drafod eich anghenion os gwelwch yn dda.
Credyt y fideo  i Justine o Cariad Glass
Share by: