Amdan

Amdan

Cefais fy magu yn Derbyshire gwledig a datblygais gariad am grefft yn fy mywyd cynnar.  Roedd fy nwy famgu yn medrus gyda’r nodwydd, ac yn ailgylchu yn ffyrdd diddorol, y gelwir heddiw yn “upcycling”.  Er eu dylanwad nhw, cymerodd fy mywyd cwrs arall. Hyforddais fel gwyddonydd, ac ar ol fy nocthuriaeth ym Mhrifyshol Nottingham, gweithais ym mhrifysgolion a chanolfannau ymchwil yn Mecsico, Y Gambia ac Aberystwyth, lle ymhen amser ymgatrefais.

Parhawodd fy niddordeb yn tecstiliau, ond unwaith ddarganfyddais marblio, ges i fy machu yn gyflym.  Yn 1993 ganwyd fy merch a phenderfynais cymryd egwyl gyrfa.  Dyma’r amser penderfynais ddechrau busnes o’n diddordeb, a ganwyd Marmori Jude Riley.  Bron i ddwy ar hugain mlynedd yn ddiweddarach mae’r busnes wedi tyfu a newid ac mae’r amrywiad o gynhyrchion rwyf yn eu creu wedi datblygu.

Ar hyn o bryd rwyf yn cynhyrchu cardiau, scarffiau, darnau wal a gemwaith papur.
Share by: